Hen Felin

 

 

 


 

 

 

 

 


Y prosiect adeiladu:

Pan gychwynwyd y gwaith ail-adeiladu ym mis Hydref 1998 'roedd yr adeilad mewn cyflwr gwael iawn gyda'r llawr isaf heb newid fawr ddim ers degawdau.

Nid oedd y llawr isaf ( y gweithdy)wedi derbyn unrhyw fath o driniaeth atal tamprwydd , gyda waliau moel o lechfaen a llawr pridd. Caewyd hen ffenestri gyda cherrig a llechi ac roedd y waliau'n foel ac heb eu rendro o gwbl a'r holl adeilad yn llwm ,oer a gwlyb heb olau trydan na thoiled!

Bellach mae'r lle wedi ei wedd-newid.

Mae'r llawr isaf bellach yn ystafell gymunedol ddeniadol a chroesawus sy'n cynnwys:-

- ystafell gyfarfod/gymunedol;
- cegin/ man arlwyo:
- toiledau ( gan gynnwys adnoddau newid clytiau i fabanod);
- goleuadau y gellir rheoli eu cryfder ( ar gyfer cyflwyniadau clywedol);
- gwresogi; a
- grisiau newydd i gysylltu'r llawr isaf gyda'r llawr cyntaf. ( Cyn hyn nid oedd modd mynd o un llawr i'r llall heb gerdded y tu allan i'r adeilad neu trwy frad-ddor oedd yn atgof o hen hanes diwydiannol y felin)

Ar y llawr uchaf moderneiddwyd yr ystafell ymarfer i gynnwys:-

- storfa offer newydd;
- swyddfa newydd;
- gwres a goleuo modern;
- carpedi moethus;
- toiledau gwryw/benyw ac addasiad i'r anabl;
- ymdriniaeth acwstig (i'r to, waliau a'r llawr) fydd yn rheoli ansawdd y swn a gynhyrchir gan y band wrth ymarfer.

Y Tu Allan:-

Mae'r ddau brif fynediad i'r adeilad ar y llawr isaf a'r llawr uchaf wedi ei gynllunio i sicrhau mynediad rhwydd i berson anabl , gyda dau le parcio wedi ei ddynodi ar gyfer pobl anabl, un yn y prif faes parcio a'r llall wrth brif fynedfa'r llawr uchaf yn union gyfochr a'r ffordd.

-----------------------------------------------------------------------------------------

The building project:

When construction work started in early October 1998, the building was in a very poor condition with the ground floor being virtually in the same condition as it had been during the quarrying days.

The ground floor (the workshop) had never received any treatment, with exposed slate walls and a soil floor. Old window spaces had been blocked-up with stone and slate, the walls had never been plastered and there was no heating, toilets or proper lighting.

This has all been changed!

The Ground Floor is now a new and inviting Community Room which contains:

- a community/meeting room;
- a kitchen/servery;
- toilets (complete with baby change facilities);
- dimmable lighting for audio-visual purposes;
- heating; and
- a new staircase to connect the ground and first floors. (Previously, the ground and first floor had never been connected, except via a trap door which was a remnant of the building’s days as a quarry mill).

On the upper floor the Practice Room has been modernised to include:

- a new instrument store;
- a new Administration Office;
- modern heating and lighting;
- new carpeting;
- refurbished toilet areas;
- acoustic treatments (to walls, floor and ceilings) – which will control the sound-wave characteristics of the rehearsal room, thus assisting to improve the Band’s sound.

External Areas:

All primary accesses to both the Lower and Ground Floors have been designed to allow easy access for disabled persons, with 2 car parking spaces being designated "Disabled Parking" areas: one in the new (lower) car park and the other by the upper access to the Practice Room.