Crynod Ddisgiau ~ Compact Discs

 

 



LLECHEN LAS

 

 

 

 


 

 

 

 

 

 

 

Mae dros 170 mlynedd wedi mynd heibio bellach ers i griw o chwarelwyr o'r chwarel lechi yn Ninorwig ffurfio beth sydd erbyn heddiw yn cael ei adnabod fel Band Deiniolen. Mae dylanwad y chwarel yn fawr ar y band - dylanwad sydd yn parhau yn gryf iawn hyd heddiw - gyda'r band yn ymarfer mewn hen felin lechi yn y pentref. Nawr, gyda'r band yn rhyddhau yr ail gryno ddisg yn ei hanes, gwelir y band presenol yn talu teyrnged i'w cyn-dadau, ond ar yr un pryd yn edrych i'r dyfodol - dyfodol y band yn Neiniolen sy'n hynod ddiogel yng nghôl ieuenctid y gymdeithas.

Yn 2001, comisynodd y band ddarn newydd o gerddoriaeth gan y cyfansoddwr bandiau pres byd enwog, Darrol Barry, i ddathlu ail-adeiladu ystafell ymarfer y band. Mae'r darn mewn tri symudiad - 'Y Chwarel', 'Afon Caledffrwd' a 'Hen Felin' - enwau sy'n disgrifio cysylltiad y band â'r diwydiant llechi. Enw'r darn cyflawn yw 'Llechen Las' - a dyma hefyd yw enw'r gryno ddisg . Cânt eu hail-adrodd (a'u clywed ar un trac) mewn geiriau a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y recordiad hwn gan y Prifardd Dafydd John Pritchard i adlewyrchu hanes y band a'r chwarel:

Llechen las, cynhaliaeth;
Llechen las, hunaniaeth.
Creigiau'r co' ydi'r rhain
lle mae gwaed wedi ceulo'n borffor.
Mae synau'r cyn i'w clywed
yn fyw, fyw fan hyn,
a'r llwch yn ddu mewn 'sgyfaint.
Llechen las.

Llechen las, cynhaliaeth;
Llechen las, hunaniaeth.
Ond mae'r gân yn y graig;
y gân fu'n ein cynnal
pob un haf a gaeaf.
Y gân hon yw craig
ein goroesiad;
ac ynddi, arni, bydd cân
yn naddu'r llechen.
Llechen las.

Recordiwyd y ddisg dros benwythnos andros o boeth ym mis Gorffennaf yng Nghanolfan Dinorwig gan gwmni recordio Dolce Productions o Dde Cymru. Roedd yn brofiad arbennig recordio'r gerddoriaeth yng nghysgod yr hen chwarel a'i chynefin, yn enwedig gan fod aelodau'r band ieuenctid yn ymuno ag aelodau'r band 'mawr' mewn dwy eitem ar y ddisg. Dyma yw'r recordiad cyntaf yn hanes Band Deiniolen ble 'roedd yr holl aelodau cyd-chwarae gyda'i gilydd. Mewn un eitem, mae dros 60 o'r aelodau'n perfformio - o'r ieuengaf sy'n 6 oed i'r hynaf sy'n 70!

Braf hefyd oedd cael croesawu cyn-aelod yn ôl i'w fand enedigol i berfformio unawd. Mae llwyddiant Gavin Saynor yn enghraifft wych o'r talent sy'n cael ei feithrin yn yr Hen Felin yn Neiniolen - ac roedd yn bleser o'r mwyaf cael cyfeilio i un o unawdwyr blaenaf y byd bandiau pres ym Mhrydain. Braint hefyd yw cael cyfeilio i John Eifion, sydd erbyn hyn yn aelod gwerthfawr o bwyllgor y band. Mae enw John Eifion yn adnabyddus ledled y wlad, ac mae'n anrhydedd cael cyflwyno eitem ganddo ar y ddisg.

Mae 'Llechen Las' ar gael i'w phrynu am £10 drwy law unrhyw aelod o'r band, neu yn uniongyrchol drwy ffonio Meirion Jones ar 01286 870452 neu Dylan Williams ar 07793 679492.

Hoffai'r band ddiolch i gwmni First Hydro (http://www.fhc.co.uk) am eu
cefnogaeth i'r prosiect hwn.

-----------------------------------------------------------------------------------------------

It is now over 170 years since a group of quarryment from the Dinorwig Slate Quarry formed what is now known as the Deiniolen Silver Band. The quarry still has a huge influence on the band to this day, with the band reharsing every week in its own building in the village that used to be an old slate mill. This influence is enforced with the release of the band's second CD, which sees the present-day band pay their respects to their forefathers, and also looking forward to the next generation of banders in Deiniolen.

In 2001 the band commissioned a new piece of music from the pen of the world-famous brass band composer, Darrol Barry, to celebrate the re-opening of the bandroom. The piece comes in three movements - 'The Quarry', 'Caledffrwd River' & 'The Old Mill' - titles that describe the band's connection with the slate industry. The piece is titled 'Llechen Las' ('The Slate') - and it is this name which has been given as the CD's title. The words 'Llechen Las' are repeated (and can be heard on one track on the disc) in a piece of poetry commissioned especially for this recording by the poet Dafydd John Pricthard to reflect the band's origin in the slate quarry.

The disc was recorded on an extremely warm weekend in July at Canolfan Dinorwig by the recording company Dolce Productions from South Wales. It was a special experience recording the music in the shadow of the old quarry - especially considering that the members of the youth band had joined the senior members to record two items on the disc. This is the first time in the band's history that all the members of the organisation appear on disc together - from the youngest, aged 6, to the oldest, aged 70!

It was a pleasure to be able to welcome back an ex-member of the Band to perform as guest soloist on this recording. Gavin Saynor is now regarded as one of the foremost brass soloists in Britain, and his success is a prime example of the way in which young talent is nurtured and encouraged at the 'Hen Felin' in Deiniolen. The band are also honoured in being given the opportunity to accompany the famous voice of John Eifion Jones, whose mellow tenor voice and natural musicianship have won him acclaim throughout the Principality and beyond.

'Llechen Las' is available to purchase, priced £10, from any band member, or directly from Meirion Jones on 01286 870452 or Dylan Williams on 07793 679492.

The band wish to thank the First Hydro company (http://www.fhc.co.uk) for their support towards this project.